22 November 2023
Annwyl Derek,
Craffu ar gyfrifon: Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru 2022-23
Hoffwn ddiolch i chi a Marie am ddod i gyfarfod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar 25 Hydref 2023.
Yn sgil cyfyngiadau amser yn ystod y cyfarfod, ni ofynnwyd nifer o gwestiynau, a materion y byddai’r Pwyllgor yn awyddus i gael eglurhad ohonynt:
§ A ydych chi’n hapus â dull Llywodraeth Cymru ar gyfer gosod y gyllideb i’ch swyddfa ar gyfer 2024-25 a lefel yr ymgysylltiad yr ydych wedi’i gael â swyddogion hyd yma?
§ Ydych chi'n gwybod pryd rydych chi'n disgwyl clywed am eich dyraniad cyllid ar gyfer 2024-25, a fydd yn cael ei adlewyrchu yng Nghyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru?
§ A allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau a gawsoch gyda Llywodraeth Cymru ynghylch ehangu nifer y cyrff o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 a'r goblygiadau cost cysylltiedig; beth yw'r goblygiadau i'ch swyddfa o beidio â chael cyllid ychwanegol ar gyfer yr wyth corff ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu hychwanegu?
§ A yw Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu â chi ynglŷn â'i gwerthusiad o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 ac, os felly, beth yw'r cwmpas a'r amserlen ar ei gyfer?
§ Yn eich Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2022-23, rydych chi’n nodi’r ffocws ar gyfer eich swyddfa yn y dyfodol. Rydych chi'n dweud "Rhwng mis Mawrth a mis Medi, bydd fy nhîm a minnau yn achub ar y cyfle i adnewyddu ein hymagwedd at yr hyn a wnawn a gosod meysydd ffocws newydd ar gyfer ein gwaith". Ydych chi wedi gwneud hyn ac, os felly, a ydych chi'n gallu rhoi manylion ac egluro sut, o ganlyniad i hynny, y byddwch chi'n dyrannu amser ac adnoddau eich swyddfa yn fwy effeithiol i sicrhau’r effaith fwyaf?
§ Sut ydych chi wedi ymgysylltu â staff ar draws eich swyddfa, a gofyn am eu barn, wrth i chi adnewyddu dull eich swyddfa a gosod meysydd ffocws newydd ar gyfer eich gwaith?
§ Ydych chi wedi nodi eich gweledigaeth gyffredinol, ynghyd ag unrhyw newidiadau rydych chi'n bwriadu eu gwneud i'r gweithrediadau a'r ffyrdd o weithio a fabwysiadwyd gan eich rhagflaenydd, fel y gofynnwyd gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol? Os felly, sut mae hyn yn edrych?
§ Pa gynnydd rydych chi wedi'i wneud gyda'ch cynllun corfforaethol newydd, y gwnaethoch ymrwymo i’w gynhyrchu erbyn yr hydref hwn, a beth allwch chi ddweud wrthym amdano?
§ Gwnaeth y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol argymell eich bod yn nodi’r canlyniadau yr hoffech eu cyflawni yn ystod eich cyfnod yn y swydd, gyda dangosyddion perfformiad allweddol cysylltiedig. Pa gynnydd ydych chi wedi’i wneud yn hyn o beth?
§ A oes gennych gynlluniau i bennu cerrig milltir i'w cyflawni ar gyfer pob blwyddyn o'ch cyfnod yn y swydd ac, os felly, sut ydych chi'n bwriadu adrodd ar y cynnydd a wnaed yn eu herbyn?
§ Gwnaethoch chi ddweud wrth y Pwyllgor eich bod yn adolygu strwythur eich uwch staff ac roeddech yn cwrdd â’r tîm, y diwrnod ar ôl y cyfarfod, i'w drafod. Ydych chi’n gallu pennu, ar hyn o bryd, beth fydd canlyniad yr adolygiad a rhannu manylion unrhyw newidiadau arfaethedig, ynghyd â'r rhesymeg drostynt?
Gwnaethoch gytuno i ysgrifennu at y Pwyllgor er mwyn rhoi rhagor o wybodaeth, gan gynnwys:
§ rhagor o fanylion am ble rydych chi’n meddwl bod cyfleoedd i chi gyflawni yn erbyn dyletswyddau a phwerau eich swydd, ac i allu denu cyllid o rywle arall.
§ copïau o ddwy gofrestr risg Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol.
§ egluro pam y cwblhaodd eich archwilwyr mewnol dri adolygiad yn ystod 2022-23, o'i gymharu â chwech yn 2021-22 ac a oedd hyn yn adlewyrchu'r rhaglen waith a nodwyd yn y cynllun archwilio mewnol ar gyfer 2022-23. A yw’n egluro pam y bu gostyngiad o £4k yn y tâl i archwilio mewnol i £7k yn 2022-23, o’i gymharu â 2021-22?
A fyddech cystal ag ymateb erbyn 6 Rhagfyr 2023.
Cofion,
Mark Isherwood AS
Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus